Thumbnail
Grantiau Bach - Creu Coetir - Ardal Sensitifrwydd Isel
Resource ID
26a1f656-5d56-4620-8b72-8e62fda4646f
Teitl
Grantiau Bach - Creu Coetir - Ardal Sensitifrwydd Isel
Dyddiad
Awst 15, 2022, canol nos, Creation Date
Crynodeb
Mae'r map hwn yn dangos ardaloedd yng Nghymru lle gall ffermwyr a rheolwyr tir wneud cais am ardaloedd bychain o blannu coed rhwng 0.1 a 2 hectar, o dan y cynllun Grantiau Bach - Creu Coetir. Mae hwn yn gynllun syml sy'n ceisio annog plannu ardaloedd bychain o goetir ar dir sydd wedi'i wella'n amaethyddol neu o werth amgylcheddol isel yng Nghymru. Mae'r haen map hwn yn dangos ardaloedd sensitifrwydd isel lle na chafwyd hyd i resymau a nodwyd i osgoi plannu coed. Argymhellir eich bod yn cynnal asesiad safle manwl o'r ardal arfaethedig ar gyfer ei phlannu, er mwyn gallu ateb y cwestiynau o fewn y cais am grant. Nid yw’r ardal sensitifrwydd isel yn cynnwys ardaloedd megis cynefinoedd â blaenoriaeth, tir agored, a tir comin er mwyn osgoi’r risg o effeithiau amgylcheddol neu dirwedd negyddol.  Os nad yw'r tir y mae arnoch eisiau ei blannu yn cael ei ddangos o fewn yr haen sensitifrwydd isel hon, gallwch wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetiroedd (WCPS) a byddwch yn cael cefnogaeth gan Gynllunydd Coetir Cofrestredig i ddatblygu Cynllun Creu Coetir. Mae Map Cyfle Coetir (WOM), sydd hefyd ar gael ar MapDataCymru, ar gael i helpu fel offeryn cymorth penderfynu ar gyfer y cynllun grant creu coetir llawn, a dylid ei ddefnyddio os ydych chi'n ystyried plannu mwy na 2 hectar o goetir gan ddefnyddio grant gan Lywodraeth Cymru. Mae arian gan y cynllun Grantiau Bychain – Creu Coetir ar gael i blannu coed er mwyn creu coedwigoedd i roi cysgod i stoc, plannu coed ochr yn ochr â chyrsiau dŵr i wella ansawdd dŵr, ac mewn corneli caeau neu gaeau bach ar gyfer rhoi cysgod i stoc, bioamrywiaeth a thanwydd coed. O dan y cynllun hwn, mae'r broses ymgeisio'n ffordd gyflym a syml o sicrhau bod cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) heb orfod anfon cynllun creu coetir ar gyfer gwirio i CNC. Llinach Defnyddiwyd marc penllanw i Gymru yr Arolwg Ordnans (yn deillio o gynnyrch Llinell Ffiniau OS - https://mapdata.llyw.cymru/layers/inspire-wg:wales_hwm) fel haen sylfaenol, ac yna cafodd yr haenau canlynol eu dileu drwy ddefnyddio geobrosesu yn ArcMap10.8, sydd i gyd yn bresennol o fewn Map Cyfle Coetir (https://mapdata.llyw.cymru/maps/woodland-opportunity-map-2021/) i'w lawrlwytho fel data agored.  Tir Comin Mawn Dwfn (gan gynnwys Mawn Dwfn wedi'i Addasu) Ffyngau Tir Glas Nodweddion amgylchedd hanesyddol (HEF) Nodweddion amgylchedd hanesyddol (HEF) Clustog 50m Mynediad Agored Cynefin Posibl i Löynnod Byw Brith dros Redyn Cynefin Posibl ar gyfer Madfallod Cribog Mawr Cynefin Posibl i Adar Dibynnol Tir Agored Cynefin Blaenoriaeth - Sensitifrwydd Uchel Mosaig Cynefinoedd Blaenoriaeth - Angen Ymchwiliad Safle Geoamrywiaeth Pwysig yn Rhanbarthol (RIGS) Parciau a Gerddi Brenhinol Hanesyddol (RHPG) Heneb Gofrestredig (SM) Heneb Gofrestredig (SM) Clustog 5m Planhigion Sensitif Tir Ȃr Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) 100/300m Byffer Ardaloedd Gwarchod Arbennig yr Ucheldir (SPA) Ardaloedd Gwarchod Arbennig yr Ucheldir (SPA) Clustog 500m Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol 2018 (Coetir presennol) Arolwg Ordnans (AR) Cyrff Dŵr <400m2 Arolwg llystyfiant Cam 1 - Tir uwchben terfyn uchaf clostir Ar ôl i'r haenau hyn gael eu dileu, ffrwydrwyd yr ardal polygon sy'n weddill yn nodweddion unigol, a chafodd unrhyw ardaloedd <0.1 hectar eu dileu hefyd gan y byddai'r rhain yn anghymwys ar gyfer plannu.
Rhifyn
--
Responsible
natalie.small@gov.wales
Pwynt cyswllt
Small
natalie.small@gov.wales
Pwrpas
--
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
not filled
Cyfyngiadau
None
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: 174999.984375
  • x1: 354671.4375
  • y0: 165535.71875
  • y1: 395136.53125
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
None
Rhanbarthau
Global